Etholaeth Sir | |
---|---|
![]() | |
Aberafan yn siroedd Cymru | |
Creu: | 1918 |
Math: | Tŷ'r Cyffredin |
AS presennol: | dim |
Etholaeth yn ne Cymru oedd Aberafan, a oedd yn cynnwys tref ddiwydiannol Port Talbot. Yn 2024, newidiwyd ffiniau ac enw'r etholaeth yn Etholaeth Aberafan Maesteg.
Poblogaeth ddosbarth gweithiol oedd ganddi'n bennaf, a bu'r sedd yn gadarnle i'r Blaid Lafur dros y blynyddoedd. Yn y gorffennol bu Ramsay MacDonald, prif weinidog cyntaf Llafur yn cynrychioli'r sedd (rhwng 1922 a 1929), a bu John Morris, a fu'n Ysgrifennydd Cymru ac yn Dwrnai Cyffredinol, yn ei chynrychioli rhwng 1959 a 2001.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search